Ddydd Sadwrn 29 Hydref, gorymdeithiodd dros 15,000 o rieni ledled y DU i fynnu bod y Llywodraeth yn diwygio gofal plant, absenoldeb rhiant a gweithio hyblyg. Yng Nghaerdydd, daeth cannoedd o deuluoedd ynghyd, gan rannu profiadau am orfod gwneud dewisiadau amhosibl oherwydd bod costau gofal plant yn arwain at ddiffyg mewn cyflogau.[i]
Dangosodd protest Gorymdaith y Mamau (March of the Mummies) fod rhieni’n gandryll. Maent yn teimlo bod y Llywodraeth wedi eu hanwybyddu’n rhy hir a’u bod ar y llwybr i fethu. A minnau’n un o’ch etholwyr, rwy’n ysgrifennu atoch i ofyn i chi gefnogi ein hymgyrch dros system gofal plant fforddiadwy o safon dda, sy’n rhan o gyfrifoldeb Llywodraeth Cymru.
Mae’r buddsoddiad mewn gofal plant yn druenus o annigonol. Mae gwariant cyhoeddus ar ofal plant yng Nghymru yn gymharol isel o gymharu â gwledydd datblygedig eraill. Mae gwledydd eraill sydd ag economïau tebyg i Gymru wedi buddsoddi yn eu sectorau gofal plant yn ddiweddar. Mae Canada wedi buddsoddi $30 biliwn mewn gofal plant, sy’n golygu na fydd rhieni’n talu mwy na $10 y dydd. Mae wedi gwneud hyn gan iddi ganfod, yn dilyn achos prawf llwyddiannus yn Québec, ei bod yn cael rhwng $1.50 a $2.80 yn ei ôl i’r economi ehangach am bob doler a fuddsoddid ganddi mewn gofal plant, a hynny o ganlyniad i gynnydd mewn cyflogaeth. Mae Awstralia, Seland Newydd, y Swistir, Iwerddon a Phortiwgal hefyd wedi cynyddu buddsoddiad y Llywodraeth mewn gofal plant a’r sector blynyddoedd cynnar yn ddiweddar. I ormod o deuluoedd yng Nghymru, nid yw gofal plant yn fforddiadwy nac yn hygyrch, ac mae’n gwthio llawer i dlodi.[ii]
Mae gofal plant fforddiadwy o safon uchel yn seilwaith hanfodol. Yn union fel trafnidiaeth gyhoeddus, mae’n galluogi pobl, yn enwedig mamau, i fynd i’r gwaith. Mae miloedd o fenywod ledled Cymru yn cael eu hatal rhag cymryd mwy o oriau gwaith cyflogedig oherwydd cost gofal plant[iii]. Dywed y 73% o deuluoedd Cymru nad ydynt yn defnyddio gofal plant ffurfiol na allant fforddio ei ddefnyddio. Mae yna ormod o famau’n dymuno gweithio ond yn methu gwneud hynny oherwydd costau ac argaeledd gofal plant – a hynny yng nghanol argyfwng sgiliau ac argyfwng costau byw.
Fel y mae ein Comisiynydd Plant wedi ei ddweud, mae gofal plant o safon uchel yn helpu plant i wireddu eu potensial. Mae pob £1 a fuddsoddir mewn addysg blynyddoedd cynnar yn arbed £13 mewn ymyriadau diweddarach. Ond mae angen buddsoddi mewn seilwaith – boed hwnnw’n drafnidiaeth, yn ynni neu’n addysg. Nid oes blaenoriaeth ar gyfer buddsoddiad wedi cael ei roi i’n sector gofal plant, ac rydym i gyd yn talu’r pris. Bydd buddsoddi mewn adferiad dan arweiniad gofal, yn rhan o ailadeiladu mewn modd gwyrddach a thecach, yn mynd i’r afael â’r argyfwng costau byw.
Gan mai chi yw fy nghynrychiolydd yn y Senedd, rwy’n gofyn i chi fynegi’r materion hyn i’r Prif Weinidog, Gweinidog yr Economi, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol.
[i]https://www.walesonline.co.uk/news/wales-news/crippling-cost-having-child-wales-25387747
[ii] https://www.jrf.org.uk/report/uk-poverty-2022
[iii] https://pregnantthenscrewed.com/one-in-four-parents-say-that-they-have-had-to-cut-down-on-heat-food-clothing-to-pay-for-childcare/